P-04-393 Grwp Gweithredu Ffordd Osgoi Llanymynech a Phant
Geiriad y
ddeiseb:
Rydym wedi cael llond bol ar y sŵn,
y llygredd, a’r
ffaith na allwn gerdded gyda’n plant i’r ysgol, cerdded
i’r siopau, na mynd a’n cŵn
am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel
lledu’r
ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd
un lôn
ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer o’r
tai ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd
yn ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn
anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi
yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n
hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i
chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon
yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid
yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac
Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn
benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei
chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.
Rydym
wedi cael llond bol ar y sŵn,
y llygredd, a’r
ffaith na allwn gerdded gyda’n
plant i’r
ysgol, cerdded i’r
siopau, na mynd a’n
cŵn
am dro ar hyd y ffordd. Ni fydd gwelliannau fel lledu’r
ffordd yn gweithio yma. Cynlluniwyd y ffordd i ddechrau fel ffordd
un lôn ar gyfer ceffylau a cherti. Mae llawer o’r tai
ar y ddwy ochr yn agos iawn at y ffordd, ac mae nifer o lonydd yn
ymuno â’r A483, sydd hefyd yn gwneud y ffordd yn
anaddas i’w gwella. Teimlwn mai adeiladu ffordd osgoi
yw’r unig ateb, a throi’r ffordd o Lynclys (sy’n
hynod o beryglus) o gylch pentrefi Pant a Llanymynech a’i
chysylltu â’r ffordd osgoi newydd ger Llandysilio. Hon
yw’r brif gefnffordd rhwng Manceinion ac Abertawe, ac nid
yw’n addas i’w diben. Mae llawer o Aelodau Seneddol ac
Aelodau’r Cynulliad o blaid ein hymgyrch ac rydym yn
benderfynol o gyflawni ein hamcan, a gweld dadl lawn yn cael ei
chynnal ar y mater hwn yn y Cynulliad.
Cyflwynwyd
y ddeiseb gan: Duncan
Borthwick
Ysytyriwyd am y tro cyntaf gan y Pwyllgor: 29 Mai 2012
Nifer y llofnodion: 84